Mae rhai newidiadau’n digwydd i Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor. Yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a chefnogaeth gan arianwyr eraill, byddwn yn symud i adeilad Plas yr Esgob (sy’n cael ei adnabod fel Neuadd y Dref hefyd), sydd wedi’i leoli tros y ffordd.

Cychwynnodd gwaith adeiladu ar y safle ym mis Mawrth 2014 a bydd yn parhau tan fis Mawrth 2015. Wedi hynny gobeithiwn ddodrefnu a llenwi ardaloedd mewnol yr adeilad ac agor i’r cyhoedd yn ystod hydref 2015. Bydd gan ein cartref newydd ddau ofod ar gyfer oriel gelf, tri gofod amgueddfa, gofod dysgu mawr, storfa, swyddfeydd i staff, a chaffi a siop. Gobeithiwn hefyd agor chwe diwrnod yr wythnos – o ddydd Mawrth tan ddydd Sul gydag oriau agor hirach bob dydd. Bydd yr adeilad yn cynnwys lifft felly bydd yn hygyrch i bawb, a gobeithiwn y bydd yn lle agored, cyfeillgar lle gall pawb ddarganfod rhywbeth i ddysgu amdano neu i’w hysbrydoli, neu dim ond i fwynhau eu hunain.

Bydd adeilad Plas yr Esgob ei hun yn cael ei ddehongli – gan ei fod yn adeilad pwysig ac yn un o’r adeiladau hynaf ym Mangor. Mae’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg, ac fe ddyluniwyd yr adeilad i fod yn gartref i Esgobion olynol Bangor. Bydd rhai o’r trawstiau coed sy’n dyddio i 1546 yn cael eu cadw a’u hymgorffori yn nyluniad yr adeilad, er mwyn i ymwelwyr eu gweld a dysgu am yr adeilad. Cafwyd ychwanegiadau mwy diweddar i’r adeilad megis y grisiau mawr yn 1754 a’r cerrig crynion a ddarganfuwyd yn ddiweddar tu allan i’r brif fynedfa, a bydd y rhain yn ffurfio rhan bwysig o hanes pensaernïol Bangor. Bydd y gweithwyr sydd wedi cael eu his-gontractio i gynnal y gwaith, sef R. L. Davies, yn gweithio gyda’r gymuned hefyd – boed hynny trwy benodi isgontractwyr a phrentisiaid lleol, neu gynnig Dyddiau Agored a golwg tu ôl i’r llen ar y gwaith adeiladu.

Yma, fyddai’n blogio am y newidiadau. Fydd yn gofnod o sut fydd yr adeilad yn trawsnewid i fod yn gartref newydd i’r Amgueddfa ac Oriel ac yn ffordd i chi cadw fyny hefo’r gwaith sy’n mynd rhagddi.  Cewch weld ffotograffau Alan Whitfield, sy’n gweithio fel artist ar y Prosiect. Mae’r ffotograffau yn gofnod pwysig o’r newidiadau, fel maent yn digwydd.  Cliciwch yma i weld y ffotograffau.

Esther Roberts
town-hall-exterior-low-res

graphicgraphic-oriel


STORIEL

We are really pleased to be able to announce our new name – STORIEL

We have commissioned Tim Albin, Droplet to design our Logo and develop our Brand Guidelines so the name will be given some colours and form by June 2015.

Storiel


Y diweddaraf am goed-ddyddio

Yn anffodus, nid oedd modd cael dyddiadau coed-ddyddio i’r pren a ddaethpwyd o hyd iddo yn y dderbynfa.  Er hynny, rydym am geisio cael dyddiad Carbon 14, sydd ddim mor gywir (dim ond i 30 mlynedd) ond bydd yn dal yn ddiddorol ac yn werthfawr ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni am hanes yr adeilad.


Coed-ddyddio – Trawstiau’r dderbynfa

Pan dynnwyd y nenfwd yn y brif dderbynfa daethpwyd o hyd i rai trawstiau oedd wedi eu cadw’n dda.  Mae samplau wedi eu cymryd i’w coed-ddyddio.  Rydym yn croesi ein bysedd y cawn ni hyd yn oed ddyddiadau cynharach nag a gafwyd ar yr ochr ddwyreiniol o 1546.

Trawstiau cafodd ei ddarganfod yn y dderbynfa - croesi bysedd am ddyddiadau

Trawstiau cafodd ei ddarganfod yn y dderbynfa – croesi bysedd am ddyddiadau


Cilbyst Partisiwn

Wrth barhau i agor y waliau partisiwn yn yr adeilad daethpwyd o hyd i rywbeth arall pensaernïol o ddiddordeb ar y safle sef cilbyst agored.  Yn flaenorol, roedd y cilbyst yma wedi eu cuddio mewn wal swyddfa – ac maent wedi eu lleoli yn y gofod yn yr oriel ble dyddiwyd fod y trawstiau yn mynd yn ôl i 1546. Mae Ned Scharer o’r Ganolfan Adeiladu Naturiol wedi bod yn adnewyddu’r paneli bangorwaith a hefyd gosodwyd panel newydd fydd yn dangos amryfal gamau adeiladu panel bangorwaith.


Darganfyddiadau Siawns yn ymwneud â dau deulu Iddewig arwyddocaol o ogledd Cymru.

Gwnaed darganfyddiad siawns wrth dynnu’r nenfwd i lawr yn yr atig. Bocs yn llawn eitemau yn ymwneud â’r Nadolig; cadwyni papur wedi’u gwasgu a baneri papur, pegiau wedi’u peintio a papur lapio gwreiddiol wedi’i stampio oedd yn perthyn i gwmni adnabyddus Pollecoff, oedd ag allfeydd ym Mangor, Pwllheli, Blaenau Ffestiniog a Chaergybi. Rydym wedi cadw’r papur lapio ar gyfer casgliad yr Amgueddfa. Gwnaed darganfyddiad siawns arall wrth edrych drwy’r eitemau oedd yn y sêff. Roeddem yn obeithiol y byddem yn darganfod rhyw drysor fyddai’n ein helpu gyda’n ymdrechion codi arian ar gyfer y prosiect, yn hytrach, daethom o hyd i blât copr wedi’i ysgythru, wedi’i lapio, oedd yn perthyn i Faer a Mrs Wartski. Isidore Wartski oedd Maer Bangor yn ystod yr 1940au. Fo oedd y Maer Iddewig cyntaf yng Nghymru. Mae’r plât copr hwn hefyd wedi’i gadw ar gyfer Casgliad yr Amgueddfa.

Papur lapio Pollecoff o'r 60au // Pollecoff wrapping paper from the 60s

Papur lapio Pollecoff o’r 60au // Pollecoff wrapping paper from the 60s

Engrafiad cyfeiriad Mr Wartski // Mr Wartski's Letterhead engraving

Engrafiad cyfeiriad Mr Wartski // Mr Wartski’s Letterhead engraving


Hen Goblau

Roeddem yn ymwybodol y byddai rhai nodweddion pensaernïol hanesyddol yn cael eu canfod yn ystod y gwaith adeiladu, oherwydd roeddem wedi gofyn i staff y Comisiwn Brenhinol Henebion Hynafol a Hanesyddol (RCAHMW) ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (GAT) ymgymryd ag ychydig o waith ymchwil i ni. Ni Nid oedden wedi disgwyl dod o hyd i nodweddion pensaernïol y tu allan yn ystod yr wythnos gyntaf! Darganfuwyd coblau y tu allan i’r adeilad, gyda llwybr clir oedd yn weladwy rhwng y coblau yn mynd o brif fynedfa Plas yr Esgob i fynedfa ochr Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae llun yn dangos y coblau sy’n dyddio’n ôl i ganol y 1700au, felly mae’n bosib eu bod yn dyddio cyn 1750. Cafodd y rhain eu cofnodi gan staff GAT cyn cael eu cuddio o dan seiliau caled i alluogi cerbydau mawr a gwaith ddigwydd ar y safle heb ddifrodi’r coblau. Caiff y dyluniadau tirlunio eu haddasu i gynnwys y coblau fel nodwedd yn y dyluniadau allanol.

Gellir gweld y llwybr o fewn yr hen gerrig // Revealed cobbles which show the path to the cathedral

Gellir gweld y llwybr o fewn yr hen gerrig // Revealed cobbles which show the path to the cathedral